Sefydlwyd cwmni trefnwyr angladdau Wyn Bishop yn 1984 gan Wyn a Delyth Bishop i gynnig gwasanaeth unigriw a phersonol ar adeg o alar.
Hyd heddiw rydym yn ymfalchio wrth barhau i roi gwasanaeth o safon i`r gymuned a`r ardaloedd cyfagos. Gwelwyd datblygiad i`r busnes teuluol yn 2006, pan ymunodd Nia, merch Wyn a Delyth â`r cwmni fel trefnwr angladdau.
Fel busnes teuluol rydym yn cynnig gwasanaeth 24 awr i gynorthwyo teuluoedd fel bod angen. Wedi i chi gysylltu gyda ni fe ofalwn am bob manylyn a chynnig cyngor a chymorth i chi fel teulu.
Mae ein prif swyddfa wedi’i lleoli yng Ngorslas, Cross Hands. Yr ydym yn cynnig ein gwasanaeth ym mhentrefi Cwm Gwendraeth a`r ardaloedd cyfagos.
Ar hyd y blynyddoedd mae`r Capel Gorffwys wedi dod yn ran hanfodol o`r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig. Gall y Capel Gorffwys gael ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau Cristnogol neu gwasanaethau dyniaethol gyda organydd ar gael i wasanaethu fel bod angen. Yn ôl eich dymuniad mae trefnwyr angladdau benywaidd neu gwrywaidd ar gael i`ch helpu.
Gellir gwneud trefniadau yn eich cartref neu yn ein swyddfa fel y dymunwch.
Ein gwasanaeth
Yr ydym wedi`i lleoli yng nghwm Gwendraeth ac mae gennym y cyfleusterau i gynnig gwasanaeth unigriw a phersonol ym mhob ardal:
- Gallwch drefnu gyda threfnwr angladdau benywaidd neu gwrywaidd
- Darparwn wasanaeth 24 awr
- Mae gennym ddewis eang o eirch, gan gynnwys rhai traddodiadol pren, lliwgar, cardfwrdd neu basgedi helyg.
- Cerbydai pwrpasol, hers a char, Ceffyl a char, beiciau modur ayyb
- Capel Gorffwys preifat
- Gwasanaeth blodau ac argraffu
- Cynlluniau Angladd
- Cerrig Coffa Nia Wyn Bishop