Ein Gwasanaeth
Fel busnes teuluol rydym yn cynnig gwasanaeth 24 awr i gynorthwyo chi fel teulu. Wedi i chi gystylltu gyda ni, fe ofalwn am bob manylin a chynnig cyngor ac arweiniad bob cam o`r ffordd.
Gellir gwneud y trefniadau yn eich cartref neu yn ein swyddfa. Ein nod penodol yw i wrando ar eich gofynion, ac i drefnu`r angladd yn ôl eich dymuniad. Fe ymdrechwn i wneud pob ymgais arbennig sydd gennych, yn bosib.
Yr ydym wedi`i lleoli yng nghwm Gwendraeth ac mae gennym y cyfleusterau i gynnig gwasanaeth unigriw a phersonol ym mhob ardal:
- Gallwch drefnu gyda threfnwr angladdau benywaidd neu gwrywaidd
- Darparwn wasanaeth 24 awr
- Mae gennym ddewis eang o eirch, gan gynnwys rhai traddodiadol pren, lliwgar, cardfwrdd neu basgedi helyg.
- Cerbydai pwrpasol, hers a char, Ceffyl a char, beiciau modur ayyb
- Capel Gorffwys preifat
- Gwasanaeth blodau ac argraffu
- Cynlluniau Angladd
- Cerrig Coffa Nia Wyn Bishop