Ein Hanes
Sefydlwyd cwmni trefnwyr angladdau Wyn Bishop yn 1984 gan Wyn a Delyth Bishop i gynnig gwasanaeth unigriw a phersonol ar adeg o alar.
Hyd heddiw rydym yn ymfalchio wrth barhau i roi gwasanaeth o safon i`r gymuned a`r ardaloedd cyfagos. Gwelwyd datblygiad i`r busnes teuluol yn 2006, pan ymunodd Nia, merch Wyn a Delyth â`r cwmni fel trefnwr angladdau.
Yn ogystal a threfnu angladdau mae’r busnes wedi datblygu i gynnig gwasanaeth cerrig coffa ers 1990, ac yn parhau i gynnig gwasanaeth o safon heddiw fel cerrig coffa Nia Wyn Bishop.