Trefnwyr Angladdau`r Tymbl Wyn a Nia Bishop
Sefydlwyd cwmni trefnwyr angladdau Wyn Bishop yn 1984 gan Wyn a Delyth Bishop i gynnig gwasanaeth unigriw a phersonol ar adeg o alar.
Hyd heddiw rydym yn ymfalchio wrth barhau i roi gwasanaeth o safon i`r gymuned a`r ardaloedd cyfagos. Gwelwyd datblygiad i`r busnes teuluol yn 2006, pan ymunodd Nia, merch Wyn a Delyth â`r cwmni fel trefnwr angladdau.
Fel busnes teuluol rydym yn cynnig gwasanaeth 24 awr. Wedi i chi gysylltu gyda ni fe ofalwn am bob manylyn a chynnig cyngor a chymorth i chi fel teulu.
Mae ein prif swyddfa wedi`i lleoli yng Ngorslas, Cross Hands, tua milltyr o Tymbl. Yr ydym yn cynnig ein gwasanaeh ym mhob ardal gan gynnwys Pontyberem, Ponthenri, Bancffosfelen, Crwbin a`r ardaloedd cyfagos.
Ar hyd y blynyddoedd mae`r Capel Gorffwys wedi dod yn ran hanfodol o`r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig. Gall y Capel Gorffwys gael ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau Cristnogol neu gwasanaethau dyniaethol gyda organydd ar gael i wasanaethu fel bod angen. Yn ôl eich dymuniad mae trefnwyr angladdau benywaidd neu gwrywaidd ar gael i`ch helpu.
Gellir gwneud trefniadau yn eich cartref neu yn ein swyddfa.
Trefnwyr angladdau`r Tymbl, Wyn a Nia Bishop
Yr ydym wedi`i lleoli yng nghwm Gwendraeth ac mae gennym y cyfleusterau i gynnig gwasanaeth unigriw a phersonol ym mhob ardal:
• Gallwch drefnu gyda threfnwr angladdau benywaidd neu gwrywaidd
• Darparwn wasanaeth 24 awr
• Mae gennym ddewis eang o eirch, gan gynnwys rhai traddodiadol pren, lliwgar, cardfwrdd neu basgedi helyg.
• Cerbydai pwrpasol, hers a char, Ceffyl a char, beiciau modur ayyb
• Capel Gorffwys preifat
• Gwasanaeth blodau ac argraffu
• Cynlluniau Angladd
• Cerrig Coffa Nia Wyn Bishop